National Science and Engineering Competition Welcome to the National Science and Engineering Competition

Cystadleuaeth Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2010

Mae Cystadleuaeth Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2009-10 bellach ar agor!



Ydych chi wedi cwblhau prosiect gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg?

Allwch chi gyfleu eich syniadau yn glir ac effeithiol?

Mae Cystadleuaeth Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn chwilio am y gwyddonwyr a pheirianwyr ieuanc gorau yn y DU. Os gallwch ateb yn gadarnhaol i'r ddau gwestiwn uchod efallai y gallech arddangos eich gwaith yn y Glec Fawr/Big Bang, ffair gwyddonwyr a pheirianwyr ieuanc y DU.

Ewch ati i ganfod p'un a ydych yn gymwys i ymgeisio neu i gael fwy o wybodaeth ynglŷn â'r Glec Fawr/Big Bang a'r cyfleoedd cyffrous mae'n ei gynnig.

Cyn eich bod yn agor y ffurflen gais ar-lein gwnewch yn siŵr eich bod wedi:

  • Darllen ein meini prawf ar gyfer cymhwyso
  • Cwblhau eich crynodeb o'r prosiect a'i fod yn barod i'w lwytho i fyny
  • Cael enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a dyddiad geni pob aelod o'r tîm ac enw llawn, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost eich athro.

Cofiwch os ydych yn cystadlu fel tîm yn y Gystadleuaeth Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg, dim ond un ffurflen sydd angen i chi ei chwblhau ond bydd angen i chi ddarparu manylion am bob aelod o'r tîm a fydd yn mynychu'r Glec Fawr / Big Bang os cewch eich dewis. Mae croeso i chi gael help riant neu athro wrth baratoi eich crynodeb neu lenwi'r ffurflen gais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, dydd Gwener 30 Hydref 2009. Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i'ch cais ein cyrraedd!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn agor y ffurflen gais gywir:

Ffurflen gais ar gyfer unigolion

Ffurflen gais ar gyfer timau



Mae Cystadleuaeth Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn fenter yr Adran Fusnes, Arloesedd a Sgiliau ac fe'i drefnir ar y cyd gan y British Science Association mewn partneriaeth â Young Engineers a'r Glec Fawr/Big Bang.


  Saesneg

Andrew Cowan Robert Nunn Rhiannon Round Danielle Morrison

British Science Association - Crest Awards Logo Big Bang Logo Business Innovation and Skills British Science & Engineering Week Logo Science What? Logo Young Engineers Logo British Science Association Logo